Mia Ayliffe-Chung Llun: Amy Browne/PA
Mae dyn 29 oed o Ffrainc wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes o Brydain ac anafu dyn arall yn ddifrifol.

Cafodd Smail Ayad  ei arestio nos Fawrth yn dilyn yr ymosodiad mewn hostel i deithwyr yn Queensland. Cafodd Mia Ayliffe-Chung ei thrywanu i farwolaeth a chafodd Tom Jackson, 30 oed, o Brydain ei anafu’n ddifrifol.

Roedd Ayad wedi cyrraedd Awstralia ym mis Mawrth ac wedi dod i’r wlad yn anghyfreithlon ar fisa dros dro.

Mae adroddiadau ar ei gyfrif Facebook yn awgrymu ei fod yn dod yn wreiddiol o Marseille yn ne Ffrainc, ond roedd hefyd wedi teithio i Wlad Thai a Sbaen.

Mae’r heddlu ar ddeall bod Ayad wedi bod yn hostel Home Hill ers tua mis tra bod Mia Ayliffe-Chung o Swydd Derby wedi bod yn aros yno ers cwpl o ddyddiau’n unig.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r cymhelliad y tu ol i’r ymosodiad.