Y difrod wedi'r daeargryn yn Amatrice, yn yr Eidal Llun: PA
Mae adroddiadau bod o leiaf 73 o bobl wedi’u lladd yn dilyn daeargryn nerthol yng nghanol yr Eidal a bod tua 150 o bobl yn dal ar goll.

Fe darodd y daeargryn am 3.36yb (amser lleol), gan ddymchwel adeiladau, wrth i bobl gysgu.

Roedd y daeargryn yn mesur 6 ar raddfa Richter ac wedi cael ei deimlo mewn nifer o lefydd yng nghanol yr Eidal, yn rhanbarthau Lazio, Umbria a Le Marche, gan gynnwys Rhufain.

Y trefi sydd wedi’u heffeithio waethaf yw Amatrice ac Accumoli ger Rieti, yn Perugia tua 80 milltir o’r gogledd orllewin o Rufain.

“Nid yw’r dref yma bellach,” meddai maer Amatrice, Sergio Pirozzi lle mae adeiladau cyfan wedi dymchwel. Dywedodd bod “dwsinau” o bobl wedi’u lladd.

Fe fu’r trigolion lleol yn cysgodi mewn piazzas wrth i’r ôl-gryniadau barhau tan yr oriau man.

Ers y bore ma, mae timau achub a thrigolion lleol wedi bod yn chwilio am bobl sy’n gaeth o dan  y rwbel. Mae adroddiadau bod dau gorff wedi’u tynnu o’r rwbel yn Amatrice, a bod tri o bobl wedi’u lladd mewn adeilad arall.

Dywedodd maer tref Accumoli, Stefano Petrucci, bod o leiaf chwech o bobl wedi marw yno, gan gynnwys teulu o bedwar, a dau o bobl eraill.

Yn 2009, roedd daeargryn yn mesur 6.3 wedi taro’r un ardal gan ladd mwy na 300 o bobl.