Nicolas Sarkozy
Mae cyn-Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy wedi cyhoeddi’n swyddogol ei fod am sefyll yn etholiadau arlywyddol Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mewn dyfyniad o’i lyfr a gafodd ei ryddhau ar ei gyfrif Facebook heddiw, fe ysgrifennodd Nicolas Sarkozy: “Rwyf wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad arlywyddol ym 2017.”

Mae Nicolas Sarkozy, 61, yn debyg o arwain ymgyrch yn seiliedig ar gynlluniau llym i fynd i’r afael a mewnfudo a diogelwch yn dilyn yr ymosodiadau brawychol diweddar yn Ffrainc.

Fe fydd yn gorfod ennill etholiadau cychwynnol ym mis Tachwedd, gyda’r cyn-brif weinidog Alain Juppe yn ffefryn ar hyn o bryd.

Fe gollodd Nicolas Sarkozy yr etholiad arlywyddol i Francois Hollande yn 2012 ar ôl ei dymor cyntaf.

Nid yw Hollande wedi cyhoeddi a fydd yn sefyll eto.

Mae Marine Le Pen, arweinydd y blaid asgell dde, National Front, eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisio yn yr etholiadau.