Cyrraedd ynys Lesbos
Mae nifer cyfartalog y ffoaduriaid sy’n cyrraedd Gwlad Groeg bob dydd ar ei lefel uchaf ers mis Mai ac mae miloedd o blant mewn perygl yn gwersylloedd yno, yn ôl Achub y Plant.

Roedd y nifer wnaeth gyrraedd yn ystod pythefnos cyntaf mis Awst i fyny 144% o’i gymharu â phythefnos cyntaf mis Gorffennaf.

Mae mwy na 3,800 o blant ymhlith y 10,300 o bobol sy’n sownd ar ynysoedd y wlad.

Llai na’r llynedd

Er bod y niferoedd sy’n glanio yng ngwlad Groeg yn llawer is na’r llynedd, mae’r gwersylloedd caeedig ar yr ynysoedd yn golygu nad yw teuluoedd yn gallu gadael.

Nifer fechan sy’n cael teithio i dir mawr Groeg hefyd gan roi pwysau ychwanegol ar yr gwersylloedd ar ynysoedd Lesvos, Chios a Samos.

Mae plant a menywod yn gorfod byw mewn amodau torcalonnus ac anniogel, yn ôl yr elusen, sydd wedi bod yn helpu ffoaduriaid ledled Groeg ers mis Awst 2015.

Dywedodd Katie Dimmer o Achub y Plant bod y sefyllfa yn bron cynddrwg ag oedd o ar ddechrau’r argyfwng.

Nawr mae Achub y Plant yn galw ar yr UE i roi mwy o adnoddau i Wlad Groeg fel y gallan nhw wella’r cyfleusterau yn y gwersylloedd.