Dinas Istanbul (Llun: PA)
Mae llywodraeth Twrci wedi rhyddhau yn amodol 38,000 o garcharorion, er mwyn gwneud lle i’r miloedd o bobol sydd wedi’u harestio fel rhan o ymchwilio i ymgais y fyddin i gymryd rheolaeth o’r wlad.

Mae’r cyhoeddiad diweddara’ yn caniatau i garcharorion sydd wedi bod dan glo am ddwy flynedd neu lai, i gael eu gollwng yn rhydd; ynghyd â charcharorion sydd wedi treulio hanner eu dedfryd yng ngharchar i gael parôl. Ond, fydd y rheiny sydd wedi cael eu hanfon i garchar am lofruddio, trais yn y cartre’, camdrin rhywiol na therfysgaeth yn cael eu rhyddhau.

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Bekir Bozdag, wedi dweud ar ei dudalen Twitter y bydd y symudiad hwn yn rhyddhau tua 38,000 o bobol. Pwysleisiodd nad pardwn oedd hyn, nac amnest.

Mae llywodraeth Twrci yn credu fod yr ymgais gan y fyddin i gymryd drosodd y gwaith o reoli’r wlad ar Orffennaf 15 eleni, wedi’i yrru gan ddilynwyr y clerigwr Mwslimaidd, Fethullah Gulen.

Ers hynny, mae tua 35,000 o bobol wedi cael eu dwyn i’r ddalfa i gael eu holi, ac mae mwy na 17,000 wedi cael eu harestio’n ffurfiol ar gyfer sefyll eu prawf. Mae’r rheiny’n cynnwys milwyr, plismyn, barnwyr a newyddiadurwyr.

Ddoe, fe gynhaliodd yr heddlu gyrchoedd ar 44 o gwmnïau sy’n cael eu hamau o ariannu mudiad Fethullah Gulen.