Mae dynes o Dde Affrica a herwgipiodd fabi newydd-anedig 20 mlynedd yn ôl gan ei magu fel ei merch ei hun, wedi cael ei dedfrydu i ddeng mlynedd yng ngharchar.
Er mwyn gwarchod y ferch ifanc a gafodd ei herwgipio, mae’r Barnwr John Hlophe, yn Cape Town, wedi gorchymyn na ddylid cyhoeddi enw’r ferch na’r wraig a’i cipiodd.
Mae’r diffynydd wedi’i chael yn euog o herwgipio, twyllo ac o dorri rheolau gwarchod plant.