Plismon arfog yn Ffrainc Llun: PA
Fe fydd twristiaid yn Ffrainc yn cael eu diogelu gan blismyn arfog a milwyr mewn safleoedd gwyliau, gan gynnwys traethau, dros yr haf, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i Brydeinwyr sy’n teithio i’r wlad weld cynnydd yn y trefniadau diogelwch mewn gwyliau, ffeiriau a thraethau, yn ogystal â gorsafoedd a meysydd awyr.

Mae rheolau newydd i wahardd bagiau ar y cefn hefyd wedi cael eu cyflwyno ar rai traethau, meddai The Times.

Fe gyhoeddodd cyngor Cannes ddydd Mercher y byddai bagiau ar y cefn a bagiau mawr eraill a allai fod yn celu bomiau, gael eu gwahardd o draethau.

Fe allai rhai sydd ddim yn cydymffurfio gael dirwy neu orchymyn i adael y traeth.

Daw’r mesurau diogelwch llym yn sgil cyfres o ymosodiadau brawychol yn y wlad, gan gynnwys llofruddiaeth offeiriad mewn eglwys yn Normandy ddydd Mawrth.

Bob blwyddyn mae 17 miliwn o Brydeinwyr yn teithio i Ffrainc.

Mae cyngor y Swyddfa Dramor i deithwyr yn rhybuddio bod “bygythiad sylweddol o frawychiaeth” a hefyd yn dweud bod llywodraeth Ffrainc wedi tynhau ei mesurau diogelwch.