Plismyn ger safle'r ymosodiad mewn eglwys yn Saint-Etienne-du-Rouvray, Normany, Llun: (BFM via AP)
Fe fydd Arlywydd Ffrainc Francois Hollande yn cwrdd ag arweinwyr crefyddol heddiw ar ôl i offeiriad gael ei lofruddio mewn ymosodiad brawychol mewn eglwys yn Normandy ddoe.

Daeth i’r amlwg bod un o’r brawychwyr, a lofruddiodd y Tad Jaques Hamel, 85, gyda chyllell, wedi bod dan oruchwyliaeth yr awdurdodau yn Ffrainc ac yn gwisgo tag electronig adeg yr ymosodiad bore dydd Mawrth.

Dywedodd erlynydd gwrth-frawychiaeth Ffrainc bod y dyn wedi cael ei adnabod fel Adel Kermiche, 19, a’i fod wedi osgoi’r heddlu ddwywaith drwy ddefnyddio enwau aelodau o’i deulu mewn ymdrech i gyrraedd Syria.

Ychwanegodd Francois Molins bod tag Adel Kermiche wedi cael ei ddiffodd am ychydig o oriau bob bore, sy’n cyd-fynd ag amseriad yr ymosodiad.

Cafodd Kermiche ei arestio yn yr Almaen ym mis Mawrth 2015 wrth geisio ymuno ag eithafwyr yn Syria gan ddefnyddio enw ei frawd, ac yna cafodd ei arestio yn Nhwrci ddeufis yn ddiweddarach drwy ddefnyddio enw i gefnder.

‘Addewid i frwydro yn erbyn IS’

Cafodd y ddau ymosodwr eu saethu’n farw gan yr heddlu. Roeddan nhw wedi cymryd pobl yn wystlon yn yr eglwys yn Saint-Etienne-du-Rouvray gan gynnwys dwy leian a dau addolwr.

Roedd gan un o’r dynion dri chyllell a gwregys ffrwydron ffug, tra bod gan y llall ffrwydron ffug mewn bag ar ei gefn.

Mae’r grŵp sy’n galw ei hun yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad,

Mae un person arall wedi cael eu cadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Mae Arlywydd Ffrainc wedi rhoi addewid i frwydro yn erbyn IS “gan ddefnyddio pob dull posib.”

Ond mae wedi galw ar bobl y wlad i aros yn unedig ac nid troi yn erbyn ei gilydd.

‘Sefyll ochr yn ochr â Ffrainc’

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi estyn ei chydymdeimlad i bobl Ffrainc gan ddweud ein bod i gyd yn wynebu’r bygythiad o ymosodiadau gan frawychwyr.

“Beth sy’n angenrheidiol yw ein bod yn gweithio gyda’n gilydd, ac yn sefyll ochr yn ochr gyda Ffrainc. Rydym yn cynnig pob cefnogaeth iddyn nhw i ddelio gyda’r mater yma a’r bygythiad maen nhw, a’r gweddill ohonom, yn ei wynebu.”

Ychwanegodd bod y brawychwyr yn ceisio “dinistrio ein ffordd o fyw. Maen nhw’n ceisio dinistrio ein gwerthoedd…. ni fydd y brawychwyr yn ennill.”

Er nad oes tystiolaeth benodol yn ymwneud ag ymosodiadau brawychol yn erbyn y gymuned Gristnogol yn y DU, mae’r heddlu yn annog y gymuned i fod yn wyliadwrus ac i adolygu eu trefniadau diogelwch fel rhagofal.

Daw’r cyngor wrth i’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd gyhoeddi mesurau newydd i fynd i’r afael a throseddau casineb gan gynnwys £2.4 miliwn i dalu am ddiogelwch ychwanegol y tu allan i addoldai.