Does yna ddim tystiolaeth fod gan y dyn arfog a laddodd naw o bobol ac anafu 27 yn Munich, unrhyw gysylltiad gyda’r Wrladwriaeth Islamaidd, meddai’r heddlu.
Roedd y dyn 18 oed wedi cael ei eni a’i fagu yn y ddinas, ac fe aeth ati i weithredu ar ei ben ei hun i saethu pobol mewn bwyty bwyd cyflym yng nghanol Munich neithiwr.
Mae heddlu’r ddinas wedi cadarnhau mai gwn llaw o fath Glock 17 oedd yr un a ddefnyddiwyd ganddo, ac mae yna dystiolaeth fod y gwr ifanc wedi bod dan ofal meddygol seiciatryddol ac yn derbyn triniaeth at iselder.
Mae deg o’r rheiny sydd wedi’u saethu yn ystod y digwyddiad, mewn cyflwr difrifol iawn, a bod un ohonyn nhw’n ddim ond 13 oed.