Mae arweinwyr o bob cwr o’r byd wedi bod yn cydymdeimlo â dioddefwyr yr ymosodiad yn Munich, a’u teuluoedd, wedi i ddyn arfog ladd naw o bobol ac anafu beth bynnag 16 arall, cyn troi ei wn arno’i hun neithiwr.

“Rydw i wedi fy nychryn yn ofnadwy gan y llofruddiaethau yn Munich,” meddai Arlywydd yr Almaen, Joachim Gauck.

“Rydw i’n meddwl am bob un o’r dioddefwyr, a dw i’n edmygu pawb sy’n gweithio mor galed i amddiffyn ac arbed bywydau.”

Roedd Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson, ymhlith y cyntaf i gyhoeddi datganiad yn mynegi ei “sioc” wedi’r ymosodiad “gwarthus”, gan ddweud fod Prydain yn “barod i gynorthwyo ein cyfeillion yn yr Almaen”.

Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, “fod calonnau pobol America gyda’r rheiny gafodd eu hanafu” gan fod yr Almaen yn un o gynghreiriaid agosaf yr Unol Daleithiau. Dywedodd, wedyn, fod “ffordd o fyw, rhyddid a’r modd y gallwn fynd o gwmpas ein busnes bob dydd yn ddibynnol ar gadw’r gyfraith.

Ar ran Iwerddon, fe gyhoeddodd Charlie Flanagan, y Gweinidog tros Faterion Tramor a Masnach, ei fod wedi’i “ddychryn” gan yr ymosodiad.

Fe gyhoeddodd Hillary Clinton, ymgeisydd y Democratiaid am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, ei chydymdeimlad ar ffurf neges Trydar: “Yn monitro’r sefyllfa echrydus yn Munich. Safwn ysgwydd ag ysgwydd gyda’n ffrindiau yn yr Almaen wrth iddyn nhw weithio’n galed i ddod â’r rhai sy’n gyfrifol i gyfri’.”

Meddai Donald Trump, ei gwrthwynebydd, wedyn, ar wefan gymdeithasol Facebook: “All hyn ddim parhau. Mae cynnydd yn nifer yr ymosodiadau terfysgol yn bygwth ffordd o fyw pob unigolyn rhesymol, ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein pwer i’w atal.”