Donald yn derbyn (Michael Vadon CCA4.0)
Mae Donald Trump wedi derbyn ei enwebiad swyddogol yn ymgeisydd swyddogol y Gweriniaethwyr ar gyfer arlywyddiaeth America.

Yn ei araith yng nghynhadledd y blaid yn Cleveland, Ohio, dywedodd fod y wlad mewn argyfwng, gan addo y bydd ei phobol yn fwy diogel ac yn fwy cyfoethog os byddan nhw’n ei ethol ym mis Tachwedd.

Dywedodd y biliwnydd y byddai’n cadw mewnfudo dan reolaeth, yn adeiladu wal ar hyd y ffin â Mecsico ac yn lleihau nifer troseddau.

Fe siaradodd y dyn busnes 70 oed am dros awr, ar achlysur oedd yn cael ei weld yn gyfle i ddod â’r Gweriniaethwyr at ei gilydd a dangos ei fod yn barod ar gyfer y swydd fwyaf pwerus yn y byd.

Fe fydd Hillary Clinton yn cael ei henwebu’n swyddogol yng nghynhadledd y Democratiaid yr wythnos nesaf yn Philadelphia.