Yr ymosodiad yn NIce (@harp_detectives a PA Wire)
Mae barnwyr yn Ffrainc wedi cyhuddo pump person dros yr ymosodiad yn ninas glan môr Nice, a laddodd 84 o bobol yr wythnos ddiwetha’.

Mae’r pump yn cynnwys pedwar dyn ac un ddynes, sydd wedi’u cyhuddo o droseddau yn ymwneud â brawychiaeth.

Fe gafodd y dyn, Lahouaiej Bouhlel, 31, oedd yn gyrru’r lori a darodd bobol yn fwriadol yn ystod dathliadau Diwrnod y Bastille, diwrnod cenedlaethol Ffrainc, ei saethu’n farw gan yr heddlu.

‘Pobol yn ei helpu’

Yn ôl erlynydd o Baris, roedd gan yr ymosodwr bobol oedd yn ei helpu ac a oedd wedi bod yn cynllunio’r ymosodiad ers misoedd.

Fe gyfeiriodd Francois Molins at negeseuon testun a mwy na 1,000 o alwadau ffôn a fideo o leoliad yr ymosodiad ar ffôn un o’r pump sydd wedi’u cyhuddo.

Mae dau o’r pump, fel Bouhlel ei hun, o drad Ffrengig a Thwnisaidd, un o Dwnisia ei hun, un o Albania ac un o dras Ffrengig ac Albanaidd.

Mae’r pump wedi’u cadw yn y ddalfa wrth i’r ymchwiliad barhau.

Cefndir

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ond mae’r awdurdodau’n dweud nad oes tystiolaeth yn dangos mai’r grŵp eithafol oedd y tu ôl i’r cynllwyn.

Mae Ffrainc, sydd eisoes wedi dioddef dau ymosodiad brawychol arall yn y 18 mis diwethaf, a laddodd dros 140 o bobol, wedi ymestyn ei stad o argyfwng am chwe mis arall.