Baner IS
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad ar drên yn ne’r Almaen, pan gafodd o leia’ pump o bobol eu hanafu.

Roedd llanc 17 oed o Afghanistan wedi ymosod ar deithwyr gyda bwyell a chyllell yn ardal Bafaria nos Lun, cyn iddo gael ei saethu’n farw gan uned arbennig o’r heddlu.

Roedd datganiad IS ar wefan ei asiantaeth newyddion, Aamaq, yn dweud bod y ceisiwr lloches yn aelod o’r grŵp brawychol ac wedi ymateb i alwadau IS i ymosod ar wledydd sydd yn ei erbyn.

Yn ôl gweinidog mewnol Bafaria, Joachim Herrmann, fe wnaeth y llanc weiddi “Allahu akbar” – “Mae Duw yn wych” – yn ystod yr ymosodiad.

Mae ymchwilwyr wedi dod o hyd i faner IS wedi’i phaentio â llaw yn ei ystafell wely hefyd.

Cyrraedd yr Almaen yn 2014

Daeth yr ymosodwr, sydd heb gael ei adnabod yn swyddogol, i’r Almaen ddwy flynedd yn ôl ar ei ben ei hun, a cheisiodd am loches ym mis Mawrth y llynedd.

Roedd yn byw mewn cartref i ffoaduriaid ifanc hyd nes pythefnos yn ôl pan gafodd ei roi gyda theulu maethu yn ardal Wuerzburg.

Mae ymchwilwyr wedi bod yn siarad â’r teulu maethu, tystion a ffrindiau’r ymosodwr.

Fe gafodd o leiaf pedwar person eu hanafu ar y trên, ger Wuerzburg-Heidingsfeld, a dynes y tu allan i’r trên, wrth i’r llanc geisio dianc.

Roedd tua 30 o deithwyr ar y trên ar y pryd, a chafodd dros ddwsin eu trin am sioc.

O leia’ dau mewn cyflwr difrifol

Mae o leiaf dau ddioddefwr – aelodau o deulu o China ar wyliau – mewn cyflwr difrifol. Mae adroddiadau bod pedwar aelod o’r teulu o bump wedi cael eu hanafu.

Yn ôl papur newydd yn Ne China, y rhai gafodd niwed oedd tad, 62, mam, 58, merch, 27 a’i chariad, sy’n 31 oed. Ni chafodd eu mab 17 oed  ei anafu.

Fe wnaeth yr Almaen gofrestru dros filiwn o geiswyr lloches y llynedd, gan gynnwys dros 150,000 o bobol o Afghanistan.