Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, yn gosod torch yn y seremoni i nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme yn Nulyn heddiw (llun: Brian Lawless/Gwifren PA)
Daeth cynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon ac o’r Weriniaeth at ei gilydd yn Nulyn heddiw i goffáu’r milwyr o bob rhan o Iwerddon a fu farw ym mrwydr y Somme.

Ymysg y rhai fu’n nodi canmlwyddiant y frwydr roedd arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, y Taoiseach Enda Kenny, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers.

Fe fu farw 3,500 o filwyr o Iwerddon yn y Somme, a hyd yn gymharol ddiweddar mae’r coffâd amdanyn nhw wedi tueddu i gael llawer mwy o sylw gan unoliaethwyr na chenedlaetholwyr. Ym mlynyddoedd cynnar y Weriniaeth, roedd milwyr a fu’n ymladd dros Brydain yn y Rhyfel Mawr yn aml yn dioddef dirmyg ac erledigaeth.

Mae’r seremoni heddiw, a gafodd ei threfnu ar y cyd gan y Lleng Brydeinig a Llywodraeth y Weriniaeth, yn brawf o’r newid sydd wedi digwydd yn Iwerddon dros y blynyddoedd diwethaf.

Un o’r arwyddion cliriaf o’r newid hwnnw gweld Martin McGuinness, un o gyn-arweinwyr yr IRA, yn plygu ei ben a gosod torch ar y senotaff. Fe fu hefyd yn ymweld â mynwentydd y Somme y mis diwethaf.

Fe ddigwyddodd brwydr y Somme lai na thri mis ar ôl Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn, a gafodd ei gofio mewn penwythnos o’r seremonïau mwyaf yn hanes y wladwriaeth yn ystod y Pasg eleni.