Car trydan Tesla
Bu car sy’n gyrru ei hun mewn damwain yn yr Unol Daleithiau a lladdwyd y perchennog.
Joshua Brown o Ohio yw’r cyntaf i farw mewn cerbyd o’r fath.
Roedd y dyn 40 mlwydd oed mewn car Tesla Model S.
Cyn y ddamwain roedd wedi canmol system soffistigedig y Tesla i’w deulu a’i ffrindiau.
Y car heb weld y trelar
Bu farw Joshua Brown yn y ddamwain yn Williston, Florida, pan fethodd camerâu ei gar â gweld y gwahaniaeth rhwng trelar tractor ac awyr llachar.
Yn ôl datganiad gan Tesla, bu i’r car fethu brecio ac fe yrrodd trwy’r trelar.
Mae Llywodraeth America yn dweud yn ymchwilio i ddyluniad a pherfformiad system Tesla.
Dywedodd gyrrwr y tractor, Frank Baressi, 62, fod y Tesla’n gyrru mor gyflym fel na welodd o’r cerbyd yn dod.
Dywedodd Tesla mai hwn oedd y farwolaeth gyntaf mewn mwy na 130 miliwn o filltiroedd o’u ceir yn gyrru eu hunain.