Afghanistan, Llun: PA
Mae 30 o blismyn dan hyfforddiant wedi cael eu lladd yn Afghanistan ar ôl i hunan-fomiwr eu targedu.

Digwyddodd yr ymosodiad ryw 12 milltir i’r gorllewin o Kabul.

Roedd y bws yn mynd o’r ganolfan hyfforddiant yn nhalaith Wardak i’r brifddinas.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.