Istanbwl, Twrci
Mae bellach 41 o bobol wedi marw yn Nhwrci mewn ymosodiad gan hunan-fomwyr ym Maes Awyr Ataturk yn Istanbwl nos Fawrth.

Mae llywodraeth y wlad wedi rhoi’r bai ar filwriaethwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ar ôl i dri hunan-fomiwr dargedu’r maes awyr.

Roedd 23 o ddinasyddion Twrci a 13 o dramorwyr ymhlith y meirw, a chafodd bron i 150 o bobol eraill eu hanafu.

Mae’r wlad wedi cyhoeddi diwrnod o alaru cenedlaethol.

Yn ôl prif weinidog Twrci, Binali Yildirim, fe gyrhaeddodd y bomwyr y maes awyr mewn tacsi, gan danio gynnau at deithwyr cyn ffrwydro’r bomiau.

Ond dydy pob adroddiad o’r hyn ddigwyddodd ddim i gyd yn cyd-fynd a’i gilydd.

Bellach, mae awdurdodau yn edrych ar fideo CCTV ac yn clywed gan dystion i geisio gwybod union fanylion yr ymosodiad.

Dyma’r ymosodiad diweddaraf yn Nhwrci, sydd wedi gweld cyfres ohonyn nhw dros y misoedd diwethaf.

Mae’r ymosodiadau wedi codi braw ar dwristiaid ac wedi niweidio economi’r wlad, sy’n dibynnu’n helaeth ar y diwydiant twristiaeth.

IS yn ‘gyfrifol’

Wrth siarad yn y maes awyr, dywedodd y Prif Weinidog, Binali Yildirim, fod lle i gredu mai’r grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Daesh, oedd y tu ôl i’r gyflafan.

“Mae canfyddiadau ein lluoedd diogelwch yn pwyntio tuag at sefydliad Daesh fel y rhai a gyflawnodd yr ymosodiad brawychol hwn,” meddai.

“Er bod ein canfyddiadau yn awgrymu Daesh, mae ein hymchwiliadau’n parhau.”

Galwodd am undod cenedlaethol a “chydweithio rhyngwladol” wrth geisio trechu brawychiaeth.

“Mae’r (ymosodiad) wedi dangos eto bod brawychiaeth yn fygythiad byd-eang,” meddai. “Mae hwn yn ymosodiad ffiaidd a dargedodd pobol ddiniwed.”