Mae o leiaf pump o bobl wedi’u lladd a phymtheg wedi’u hanafu mewn cyfres o ffrwydron gan hunanfomwyr yn nwyrain Libanus yn gynnar y bore yma.

Yn ôl adroddiadau cyfryngau’r wlad, roedd pedwar o hunanfomwyr yn rhan o’r “ymosodiad prin” ac maen nhw’n honni eu bod yn gysylltiedig â grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Digwyddodd yr ymosodiad ym mhentref Cristnogol Qaa ar y ffin â Syria tua 4 y bore (amser lleol).

Cafodd y bomiau llaw eu taflu wedi i’r swyddogion amddiffyn sifil gyrraedd y pentref, ond nid yw’n eglur beth oedd targed yr ymosodwyr am i’r ffrwydron gael eu taflu tua 150m i ffwrdd o ffin tollau Libanus.

Mae nifer o ffoaduriaid sydd wedi ffoi o Syria wedi ymgartrefu ym mhentref Qaa.