Mae dyn 73 blwydd oed wedi saethu’n farw un o heddweision y Ffindir, yn ogystal ag anafu swyddog arall, wedi iddyn nhw fynd i ymchwilio beth oedd y swn tanio oedd yn dod o’i gartre’ anghysbell.

Fe gafodd nifer o swyddogion eu hanfon gan heddlu Vihti, i’r gogledd-orllewin o Helsinki, i’r ty yn hwyr nos Wener.

Roedd swn gwn yn eu haros wrth iddyn nhw ddynesu at y ty, ac fe gafodd un swyddog 30 oed ei ladd.

Fe aeth y saethwr yn ei flaen i’w ladd ei hun.