Baner y Wladwriaeth Islamaidd
Mae o leiaf wyth o bobl wedi cael eu lladd a 13 wedi eu hanafu mewn dau ffrwydrad ar gyrion Damascus, prifddinas Syria.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau gan hunanfomwyr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ym maestref Sayyida Zeinab, lle mae un o gysegrfeydd mwyaf sanctaidd Islam Shiite, sy’n denu miloedd o bererinion Shiite bob blwyddyn.

Mae’r ardal wedi bod yn darged ymosodiadau rheolaidd yn ystod rhyfel cartref Syria, sydd bellach yn ei chweched blwyddyn.