Baghdad Llun: PA
Mae o leiaf 27 o bobl wedi cael eu lladd a dwsinau wedi eu hanafu mewn dau ffrwydrad car yn Irac.

Roedd yr ymosodiad cyntaf wedi targedu ardal Shiaidd yn Baghdad gan ladd o leiaf 15 o bobl gyffredin tra bod 12 arall wedi eu lladd mewn ffrwydrad ger safle’r fyddin yn nhref Taji, tua 12 milltir i’r gogledd o’r brifddinas.

Dywedodd yr awdurdodau fod o leiaf 63 wedi eu hanafu yn y ffrwydradau.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad mewn datganiad, gan ddweud ei fod yn targedu aelodau o’r fyddin Shiaidd sy’n ymladd yn ei erbyn.

Fallujah, 40 milltir i’r gorllewin o Baghdad, yw un o gadarnleoedd mawr olaf IS yng ngorllewin Irac. Ond mae’r grŵp eithafol yn dal i reoli tiriogaeth yng ngogledd a gorllewin y wlad, yn ogystal â Mosul, ail ddinas fwyaf Irac.