Y bom a ffrwydrodd ger cerbyd yr heddlu yn Istanbwl ddoe Llun: PA
Mae tri o bobol wedi cael eu lladd ac o leiaf 30 wedi’u hanafu ar ôl i fom gael ei ffrwydro mewn fan ar y ffin rhwng Twrci a Syria.

Mae o leiaf ddau blismon ymhlith y meirw, yn ôl adroddiadau.

Digwyddodd y ffrwydrad ger gorsaf yr heddlu ar stryd brysur yn Midyat yn nhalaith Mardin.

Mae lle i gredu bod fan llawn ffrwydron wedi cael ei gyrru i mewn i flociau concrid.

Daw’r ymosodiad ddiwrnod yn unig ar ôl i fom daro cerbyd yr heddlu gan ladd 11 o bobol.

Roedd angladdau rhai o’r meirw’n cael eu cynnal y bore ma pan ddigwyddodd yr ail ffrwydrad.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad eto, ond mae’r PKK – neu’r Blaid Gweithwyr Cwrdaidd – wedi bod yn targedu’r heddlu a’r fyddin yn dilyn ffrae ym mis Gorffennaf.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) – neu Daesh – wedi cael y bai am gyfres o ffrwydradau diweddar yn Nhwrci.