Safle'r ddamwain yng Ngwlad Belg Llun: PA/Virginia Mayo
Mae tri o bobl wedi marw ac o leiaf naw wedi’u hanafu ar ôl i drên wrthdaro a thrên nwyddau yn nwyrain Gwlad Belg.

Dywedodd y darlledwr RTBF bod y ddamwain wedi digwydd yn Hermalle-sous-Huy ar lannau’r afon Meuse yn nhalaith Liege, yn hwyr nos Sul.

Yn ôl Maer Saint-Georges-sur-Meuse, Francis Dejon roedd tri o bobl wedi’u lladd a tua 9 wedi’u hanafu, ond fe allai nifer o meirw gynyddu, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Infrabel, sy’n rheoli rhwydwaith trenau Gwlad Belg, bod y ddau drên wedi bod yn teithio ar hyd yr un trac a bod y trên oedd yn cludo teithwyr wedi taro i mewn i gefn y trên nwyddau.

Roedd y trên yn cludo 40 o deithwyr ac yn teithio ar gyflymder o 55 mya pan darodd i mewn i’r trên nwyddau toc wedi 11yh, a bod dau o’r chwe cherbyd wedi dod oddi ar y cledrau a syrthio ar eu hochr, yn ôl adroddiadau.

Cafodd timau achub eu hanfon i’r safle ac erbyn 2yb fore Llun, roedd yr holl deithwyr wedi cael eu rhyddhau o’r tren, meddai Infrabel.

Mae adroddiadau bod rhai o’r naw o bobl gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.