Mae’r Pab Ffransis wedi sefydlu trefn gyfreithiol newydd er mwyn rhoi’r sac i esgobion sy’n gwneud smonach o ddelio gydag achosion o gam-drin rhywiol.

Yn ol y gyfraith a gyhoeddir heddiw, mae’r Pab yn ceisio mynd i’r afael â galwadau lu gan ddioddefwyr camdriniaeth y dylai esgobion gael eu dal yn gyfrifol am fethu ag amddiffyn eu praidd rhag pedoffiliiad.

Mae dioddefwyr, dros y blynyddoedd, wedi cyhuddo esgobion o sgubo pethau dan y carped, gan symud treiswyr o un ofalaeth i’r llall yn hytrach na’u riportio i’r heddlu.

Dan y gyfraith newydd, mae Pab Ffransis yn cydanbod fod cyfraith ganonaidd yr Eglwys Babyddol eisoes yn caniatau i esgob gael ei symud o’i swydd am ganiatau camymddwyn. Ond, meddai, mae’n awyddus i fynd â hynny gam ymhellach, gan allu diffinio’n fanwl y “rhesymau dwys” tros roi’r sac i unrhyw esgob.