Mae disgwyl i streic gan weithwyr trenau amharu’n sylweddol ar reilffyrdd Ffrainc ddydd Mercher.

Maen nhw’n protestio yn erbyn rheolau llafur y wlad ar ôl i dair allan o bedair undeb gefnogi gweithredu’n ddiwydiannol ar drothwy Ewro 2016. Gallai’r streic barhau tan ar ôl dechrau’r gystadleuaeth.

Mae gwleidyddion Ffrainc wedi cyflwyno bil sy’n rhoi mwy o ryddid i gyflogwyr ddiswyddo staff ac ymestyn oriau gwaith.

Yn ôl awdurdod rheilffordd SNCF, mae oddeutu 40% o deithiau trenau chwim a mwy na hanner teithiau trenau rhanbarthol wedi cael eu canslo.

Dydy’r streic ddim yn debygol o effeithio ar drenau’r Eurostar i Lundain, ond fe allai effeithio ar deithiau i Sbaen a’r Eidal.

Mae rhai trenau sy’n gwasanaethu maes awyr Charles de Gaulle hefyd yn debygol o gael eu heffeithio.