Talaith Queensland, Awstralia (o wefan Wikipedia creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)
Mae dynes 46 oed ar goll ar ôl i grocodeil ei chipio pan oedd yn nofio yn y môr oddi ar arfordir gogledd Awstralia yn hwyr neithiwr.

Roedd ei ffrind a oedd yn y môr gyda hi wedi ceisio’n ofer i’w hachub. Mae honno bellach mewn ysbyty yn dioddef o sioc ac anaf i’w braich.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym mharc cenedlaethol Daintree yn Queensland, ardal sy’n adnabyddus fel cynefin crococeils dŵr hallt.

Dywed cynrychiolydd yr ardal yn Senedd Awstralia fod digonedd o arwyddion am beryglon crocodeils yn yr ardal.

“Allwch chi ddim deddfu yn erbyn ffolineb dynol,” meddai Warrewn Enstch. “Os ydych chi’n mynd i nofio am 10 o’r gloch y nos, rydych chi’n mynd i gael eich bwyta.”