Mae mynach Bwdaidd 75 mlwydd oed wedi’i ladd mewn mynachlog yn ne-ddwyrain Bangladesh.

Mae’r heddlu lleol wedi cadarnhau i gorff Maung Shue U. Chak gael ei ganfod bore Sadwrn gan ei ferch yng nghyfraith, pan aeth i ymweld ag ef gyda bwyd. Roedd ei wddw wedi’i dorri â chyllell.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y weithred eto, ond mae’n dod yn sgil nifer o lofruddiaethau yn ystod y blynyddoedd diwetha’ lle mae aelodau o grwpiau crefyddol lleiafrifol, tramorwyr, blogwyr digrefydd a chyhoeddwyr seciwlad yn y wlad wedi cael eu targedu gan radicalwyr Islamaidd.

Mae yna ofn gwirioneddol yn Bangladesh fod eithafiaeth grefyddol yn ennill tir yn y wlad a fu ar adeg yn genedl o 160 miliwn o bobol, a’r rhan fwya’ ohonyn nhw’n Fwslimiaid heddychlon.