Mae talaith Alberta yng Nghanada wedi cyhoeddi stad o argyfwng wrth i ddiffoddwyr tân frwydro yn erbyn tanau gwyllt sydd wedi dinistrio 1,600 o gartrefi ac adeiladau eraill yn ninas Fort McMurray.

Mae mwy na 80,000 o bobl wedi cael gorchymyn i ffoi’r ddinas ond hyd yn hyn does dim adroddiadau o anafiadau neu farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r tân.

Mae’r fflamau, sydd wedi lledaenu oherwydd gwynt cryf, yn cael eu cadw draw o ganol y ddinas oherwydd ymdrechion “aruthrol” diffoddwyr tân, yn ôl swyddog o Asiantaeth Rheoli Argyfyngau Alberta.

Fe ddechreuodd  y tân ger y maes awyr yn hwyr ddydd Mercher. Mae’r holl deithiau masnachol i mewn ac allan o Fort McMurray wedi cael eu hatal.

Olew

Mae tywydd poeth diweddar yn ogystal ag amodau sych yn golygu bod coedwigoedd Alberta yn sych fel y garthen. Mae Fort McMurray wedi ei amgylchynu gan anialwch yng nghanol tywod olew Canada – y drydedd gronfa olew wrth gefn fwyaf yn y byd ar ôl Saudi Arabia a Venezuela.

Mae mwy na 250 o ddiffoddwyr yn brwydro’r tân ac yn ceisio amddiffyn seilwaith hanfodol – gan gynnwys yr unig bont ar draws yr Afon Athabasca a’r unig lwybr mawr i mewn ac allan o’r ddinas.

Dywedodd Prif Weinidog Canada Justin Trudeau bod y Llywodraeth wedi cynnig ei chefnogaeth lawn i’r dalaith ac anogodd dinasyddion y wlad i roi arian i’r Groes Goch er mwyn helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio.