Mae o leiaf 100 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn tân yn ystod sioe tân gwyllt yn ne India.

Cafodd 200 o bobol eu hanafu mewn teml ym mhentref Paravoor yn nhalaith Kerala wrth iddyn nhw ddathlu gŵyl sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y dduwies Bhadrakali.

Ond cafodd y digwyddiad eleni ei gynnal heb ganiatâd yn dilyn gwaharddiad gan yr Uchel Lys ar sioeau golau cystadleuol.

Mae lle i gredu bod sbarc wedi cynnau tân gwyllt oedd yn cael eu storio yn y deml.

Yn sgil y ffrwydradau, cafodd concrid ei daflu i’r awyr gan lanio hanner milltir i ffwrdd.

Mae timau achub wedi dechrau chwilio am bobol sydd wedi goroesi, ac mae nifer sylweddol o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty.

Mae ymchwiliad ar y gweill.