Najim Laachraoui
Mae’r wasg yng Ngwlad Belg bellach yn adrodd bod trydydd dyn y mae’r heddlu yn amau o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiadau brawychol ym Mrwsel, yn dal ar ffo.

Yn ôl adroddiadau’n gynarach roedd Najim Laachraoui, 24,  wedi cael ei arestio yn Anderlecht ym Mrwsel ond mae’n debyg bod yr  adroddiadau hynny bellach wedi cael eu tynnu nôl.

Mae lle i gredu bod Laachraoui hefyd yn un o’r rhai oedd yn gyfrifol am y gyflafan ym Mharis y llynedd.

Yn ôl y papur newydd ‘La Dernière Heure’, Laachraoui yw’r trydydd dyn a gafodd ei weld gyda’r ddau frawd, Khalid a Brahim El Bakraoui, mewn llun oddi ar gamera cylch cyfyng yn y maes awyr ddydd Mawrth.

Dywedodd yr erlynydd, Frederic Van Leeuw, fod dau o’r tri “fwy na thebyg” wedi cyflawni hunanladdiad.

DNA

Ddechrau’r wythnos, dywedodd erlynwyr fod DNA yn cysylltu Laachraoui â’r gyflafan ym Mharis fis Tachwedd diwethaf, pan gafodd 130 o bobol eu lladd mewn amryw leoliadau ar draws y brifddinas.

Mae lle i gredu bod Laachraoui wedi cynnig lloches i Saleh Abdeslam wedi’r ymosodiadau ym Mharis, a bod y ddau wedi teithio i Hwngari y llynedd.

Cafodd Abdeslam ei arestio yn ystod cyrch ym Mrwsel ddydd Gwener.

Mae lle i gredu hefyd fod Laachraoui wedi teithio i Syria yn 2013.

Roedd Laachraoui, sydd hefyd yn defnyddio’r enw Soufiane Kayal, wedi cael ei enwi ar y pryd fel un o ddau ddyn oedd yn teithio yng nghar Abdeslam a gafodd ei stopio ar y ffin rhwng Hwngari ac Awstria cyn yr ymosodiadau ym Mharis.