Mae’r awdurdodau yng ngwlad Belg yn dweud bod olion bysedd dyn sy’n cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiadau ym Mharis, wedi’u canfod mewn fflat yn ninas Brwsel.

Cafodd dyn ei saethu’n farw yn y lleoliad ddydd Mawrth wedi iddo yntau saethu at yr heddlu. Llwyddodd dau arall i ddianc o’r tŷ.

Fe wnaeth Salah Abdeslam ffoi o Paris yn dilyn yr ymosodiadau yno ar 13 Tachwedd a laddodd 130 o bobl. Bu farw’r rhan fwyaf o’r ymosodwyr y noson honno, gan gynnwys brawd Salah, Brahim.

Dywedodd erlynydd ffederal Gwlad Belg fod olion bysedd Salah Abdeslam wedi cael eu canfod yn y lleoliad, ond nid yw’n hysbys eto os mai Abdeslam oedd un o’r rhai oedd yn yno pan ddaeth yr heddlu.