Donald Trump
Mae ymgeisydd y Gweriaethwyr yn y ras i fod yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau, wedi gohirio rali heddiw, a hynny oherwydd pryderon tros ddiogelwch.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Donald Trump wedi i brotestwyr heidio i’r ganolfan lle’r oedd disgwyl iddo annerch.

Roedd criw mawr o brotestwyr wedi gwneud ei ffordd i mewn i Brifysgol Illinois ym Mhafiliwn Chicago, gan ddechrau gweiddi’n uchel. Roedd nifer o bobol wedi neidio i ben y llwyfan, gan neidio i fyny ac i lawr gyda’u breichiau yn yr awyr.

“Mae Trump yn cynrychioli popeth sydd ddim yn wir am America, a phopeth sydd ddim yn wir am Chicago,” meddai un myfyriwr 20 oed yn y dorf. “Fe ddaethon ni yma er mwyn ei gau i lawr. Mae hon yn ddinas arbennig, a dydyn nhw ddim eisiau Trump yma.”

Fe ddechreuodd rhai o gefnogwyr Donald Trump siantio, “We want Trump!” mewn ymateb i’r protestiadau, ac fe fuodd yna dipyn o ymladd rhwng rhai unigolion. Mae Heddlu Chicago wedi cadarnhau eu bod wedi arestio pump o bobol.