Cwch yn cludo ffoaduriaid i Wlad Groeg
Mae pump o ffoaduriaid, gan gynnwys babi tri mis oed, wedi boddi ar ôl i gwch oedd yn eu cludo i Wlad Groeg suddo, yn ôl asiantaeth newyddion Twrci.

Dywedodd yr asiantaeth fod y cwch wedi suddo yn gynnar fore Iau oddi ar arfordir gorllewinol Twrci pan oedd ar ei ffordd i ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg.

Cafodd naw o bobl eu hachub o’r cwch, a oedd yn cludo ffoaduriaid o Afghanistan ac Iran.