Jeb Bush wedi cael rownd siomedig o ganlyniadau
Mae Jeb Bush wedi rhoi’r gorau i’w ymgyrch i fod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Fe dynnodd allan o’r ras yn dilyn canlyniadau siomedig yn y rownd ddiweddaraf o bleidleisio oedd yn gosod Donald Trump (Gweriniaethwyr) a Hillary Clinton (Democratiaid) ar y brig.

Sicrhaodd Trump fuddugoliaeth yn Ne Carolina i ymestyn ei fantais fel prif ymgeisydd y Gweriniaethwyr, ond pedwerydd yn unig oedd Bush, wrth iddo roi’r gorau i geisio olynu ei dad a’i frawd yn y Tŷ Gwyn.

Roedd buddugoliaeth hanfodol, fodd bynnag, i Hillary Clinton wrth iddi hithau drechu Bernie Sanders yn Nevada.

Clinton a Trump, felly, fydd ar y brig ar ddechrau diwrnod hollbwysig o bleidleisio ar draws nifer o daleithiau ddydd Mawrth, Mawrth 1.

Ted Cruz a Marco Rubio sy’n ail a thrydydd yn ras y Gweriniaethwyr ar hyn o bryd, tra bod y ras rhwng Clinton a Sanders i sicrhau ymgeisyddiaeth y Democratiaid yn parhau’n agos.