Mae Twrci a’r Almaen wedi cytuno ar gyfres o fesurau i fynd i’r afael ag argyfwng y ffoaduriaid.

Yn eu plith, maen nhw am rwystro’r ymosodiadau ar un o ddinasoedd mwyaf Syria, Aleppo.

Fe ymwelodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel â Thwrci heddiw, ac yn dilyn trafodaethau â’r Prif Weinidog, Ahmet Davutoglu, fe ddywedodd ei bod wedi ei “harswydo” gan y bomio ar Syria gan Rwsia.

“O dan y fath amgylchiadau, mae’n anodd iawn i drafodaethau am heddwch gael eu cynnal, felly mae’n rhaid i’r sefyllfa ddod i ben yn syth,” meddai Angel Merkel.

“Rydym ar erchwyn trasiedi dynol newydd,” ychwanegodd Ahment Davutoglu.

‘Llwybr allweddol’

Mae Twrci’n llwybr allweddol i ffoaduriaid gyrraedd Ewrop ac, am hynny, mae’n ganolog i ymdrechion Canghellor yr Almaen i geisio mynd i’r afael â’r mewnlifiad.

Y llynedd, fe ddaeth tua 1.1 miliwn o geiswyr lloches i’r Almaen, nifer ohonyn nhw’n ffoi o Syria, Irac ac Afghanistan.

Mae tua 2.5 miliwn o ffoaduriaid o Syria yn Nhwrci ar hyn o bryd, ac er bod y wlad wedi cyrraedd ei chapasiti uchaf, maen nhw’n dweud y byddan nhw’n parhau i gynnig lloches.

Ceisio lleihau mudo a smyglo

Fe gyhoeddodd Ahmet Davutoglu heddiw y bydd Twrci a’r Almaen yn cydweithio i gynyddu eu hymdrechion i rwystro mudo a smyglo grwpiau yn anghyfreithlon, ond fe fyddan nhw hefyd yn parhau i gynnig cymorth i’r ffoaduriaid ar y ffiniau.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi addo £2.3 biliwn i wella safonau byw ffoaduriaid, gan ganiatáu consesiynau gwleidyddol i Dwrci, sy’n cynnwys llacio cyfyngiadau visa a chyflymu’r broses o olrhain aelodaeth o’r UE.

Bellach, mae Twrci wedi galw ar ffoaduriaid o Syria i wneud cais am Visa, mewn ymgais i rwystro’r rheiny sy’n bwriadu teithio i wlad Groeg .

Mae Twrci hefyd wedi cytuno i roi trwyddedau gwaith i ffoaduriaid o Syria fel cymhelliad iddyn nhw aros yn Nhwrci.

Maen nhw wedi cyhoeddi cynlluniau hefyd i ddynodi smyglo fel trosedd cyfundrefnol, a byddai hynny’n dod â chosbau llymach .