Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu Gogledd Corea am lansio taflegryn, gan rybuddio eu bod nhw wedi gweithredu yn erbyn canllawiau’r Cyngor Diogelwch.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon fod y wlad wedi gweithredu er gwaethaf “ple unedig y gymuned rhyngwladol yn erbyn y fath weithred”.

Fe fydd y Cyngor Diogelwch yn cynnal cyfarfod brys ddydd Sul i drafod y sefyllfa ar gais yr Unol Daleithiau a Siapan.

Wrth amddiffyn y weithred, dywedodd Gogledd Corea fod lansio’r taflegryn yn rhan o’u rhaglen ofod.

Daw’r weithred ddiweddaraf ar ôl i Ogledd Corea honni fis diwethaf eu bod nhw wedi cynnal profion gyda ar fom hydrogen.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth yr Unol Daleithiau eu bod nhw’n barod i wthio am gyflwyno sancsiynau ar Ogledd Corea.

Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un wedi addo ychwanegu at eu harfau niwclear oni bai bod yr Unol Daleithiau yn cefnu ar bolisi y maen nhw’n ei ystyried fel un sydd â’r bwriadu o ddad-orseddu’r arweinydd a’i lywodraeth.