Heddlu'n gwarchod y Regency Hotel (Llun: PA)
Fe gafodd un dyn ei ladd, a beth bynnag ddau arall eu hanafu, wedi i ddynion arfog wedi’u gwisgo mewn dillad merched ac iwnifforms timau SWAT ymosod yn ystod noson o focsio mewn gwesty yn ninas Dulyn.

Mae’r heddlu’n chwilio am y pedwar dyn a oedd yn cario gynnau “tebyg i rai AK-47” ac a orfododd eu ffordd i mewn i westy’r Regency yn Nulyn, lle’r oedd tua 300 o gefnogwyr wedi ymgynnull ddydd Gwener cyn gornest rhwng Jamie Kavanagh ac Antonio Jao Bento.

Mae un o’r dynion arfog wedi’i ddisgrifio fel “dynes yn gwisgo wig coch” ac roedd rhai eraill wedi gwisgo’n debyg i swyddogion heddlu ar y ddrama deledu SWAT.

Fe aed â dynion yn eu 20au a’u 30au i’r ysbyty, lle bu farw dyn yn ei 30au yn ddiweddarach.

Mae’r Garda, heddlu Iwerddon, y gallai’r digwyddiad hwn esgor ar ryfel rhwng rhai o gangiau mwya’ pwerus y wlad.