Mae seren ffilm ddogfen sy’n dangos sut mae dolffiniaid yn cael eu hela yn Siapan, wedi cael ei hel nôl i America.

Roedd swyddogion maes awyr Tokyo wedi gwrthod iddo gael mynediad i Siapan ac fe gafodd ei gadw mewn dalfa yno am bythefnos.

Ond mae Ric O’Barry wedi mynnu ei fod yn benderfynol o ddychwelyd i’r wlad er mwyn brwydro i achub dolffiniaid.

Yn 2009 fe enillodd y ffilm ddogfen The Cove Oscar, ac roedd yn dangos dolffiniaid yn cael eu corlannu ar draethau bychain yn Taiji a’u lladd gyda gwaywffyn.

O’Barry oedd seren y ffilm ac mae’n enwog am hyfforddi dolffiniaid ar gyfer y gyfres Flipper.

“Maen nhw’n ceisio cau fy ngheg,” meddai’r dolffin-garwr 76 oed. “Ond maen nhw’n creu ton enfawr o sylw i’r achos yma.

“Mae’n torri fy nghalon fy mod yn cael fy hel o Siapan. Wnes i erioed dramgwyddo unrhyw un o gyfreithiau’r wlad. Wnes i erioed ddweud celwydd wrth yr awdurdodau.”

Yn Taiji mae swyddogion a physgotwyr wedi amddiffyn yr arfer o gorlannu a lladd dolffiniaid, gan ddweud nad yw’n ddim gwahanol i ladd gwartheg ac ieir er mwyn bwyta cig eidion a chyw iâr.