Ahmet Davutoglu (Llun parth cyhoeddus)
Mae Prif Weinidog Twrci wedi rhybuddio am “argyfwng dyngarol” newydd yn Syria ar ôl  ymosodiadau o’r awyr gan lywodraeth y wlad a Rwsia ar ddinas ogleddol, Aleppo.

Cyhuddodd Ahmet Davutoglu lywodraeth Bashar al-Assad o ddechrau “gwarchae newyn” yn erbyn 300,000 o ddinasyddion y ddinas.

Ac mae’n dweud bod degau o filoedd o ffoaduriaid newydd ar eu ffordd i Dwrci.

Dywedodd fod 10,000 o bobol bellach wedi dianc at y ffin rhwng Twrci a Syria yn ninas Kilis, tra bod 30,000 wedi “dianc” o’r gwersyll ffoaduriaid yn yr ardal ac yn ceisio mynd i’r un cyfeiriad.

Mae’r ymosodiadau ar Aleppo wedi atal yr ymdrech ddiweddaraf i ail-ddechrau trafodaethau heddwch rhyngwladol yn Genefa.

Trafodaethau heddwch

Ymosododd Ahmet Davutoglu ar ran Rwsia yn yr ymosodiadau, gan ddweud bod 351 o ymosodiadau o’r awyr wedi’u cynnal ar wrthryfelwyr, gan gynnwys pobol gyffredin, a dim yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Gwnaeth ei sylwadau mewn cynhadledd ryngwladol ar Syria, lle cyhoeddwyd cymorth o £7 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y miliynau o bobol sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel cartref yn y wlad.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU, David Cameron, annog Rwsia i ddefnyddio ei dylanwad ar lywodraeth Assad i ddod â’r ymosodiadau yn erbyn gwrthryfelwyr i ben, yn enwedig y defnydd o fomiau casgen ar bobol gyffredin.