Mosgito
Bydd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cyfarfod heddiw i benderfynu a oes angen trin y firws Zika fel argyfwng iechyd rhyngwladol.

Cyfarwyddwr Cyffredinol y sefydliad, Margaret Chan, fydd yn arwain y trafodaethau ar y firws Zika, sy’n gallu achosi microseffali, cyflwr lle mae ymennydd y plentyn yn annatblygedig.

Mae disgwyl i WHO gyfarfod yn Genefa a bydd penderfyniad yr arbenigwyr yn cael ei gyhoeddi ar ei wefan maes o law.

Zika yn Ne America

Ym mis Mai 2015, cafwyd yr achos cyntaf o’r afiechyd ym Mrasil. Ers hynny, mae’r firws, sy’n cael ei ymledu gan fosgitos, wedi lledu ym Mrasil ac i 22 o wledydd a thiriogaethau eraill yn Ne America.

Mae ymdrechion yn cael eu gwneud yn y rhanbarth i geisio rheoli’r afiechyd drwy reoli nifer y mosgitos.

Mae WHO am flaenoriaethu datblygu brechlynnau hefyd, yn ogystal â gwella profion diagnostig.

Mae merched beichiog o Brydain sy’n bwriadu teithio i Dde America yn cael eu hannog i ailystyried eu cynlluniau yn sgil pryder am y firws Zika.