Mae cwymp eira mawr yn British Columbia, Canada, wedi lladd pump o bobol.

Fe ddigwyddodd y cwymp ddydd Gwener mewn ardal lle’r oedd nifer o grwpiau o bobol yn defnyddio cerbydau eira ‘snowmobiles’.

Mae dau grwner bellach yn cydlynu’r gwaith o geisio dod o hyd i nifer o bobol a gafodd eu dal yn y cwymp yn ardal Renshaw, i’r dwyrain o McBride, tua 130 milltir i’r de-ddwyrain o Prince George.

Mae hofrennydd yn cael ei defnyddio yn y gwaith, ac mae dau dim o weithwyr achub hefyd ar waith.