Disneyland Paris
Mae dyn, a oedd yn cario dau wn, wedi cael ei arestio  mewn gwesty ym mharc Disneyland Paris, meddai’r heddlu.

Cafodd y dyn, 28 oed, a oedd hefyd yn cario copi o’r Koran, ei arestio wrth fynedfa’r New York Hotel, yn ôl adroddiadau.

Mae dynes, partner y dyn, hefyd wedi cael ei harestio ond dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un  arall mewn cysylltiad a’r digwyddiad ar hyn o bryd.

Dywedodd swyddog o heddlu Ffrainc na chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae nifer o westai o gwmpas parc Disneyland Paris, sy’n denu miloedd o ymwelwyr o Brydain bob blwyddyn ac sydd ymhlith yr atyniadau sy’n denu’r mwyaf o ymwelwyr yn Ewrop.

Mae Ffrainc yn parhau mewn stad o argyfwng ers yr ymosodiadau brawychol ym Mharis ym mis Tachwedd, pan gafodd 130 o bobl eu lladd.