Mae llanc 17 oed wedi cael ei gyhuddo o bedwar achos o lofruddio a saith achos o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad ar ysgol ac yng nghymuned yr aborijini yng ngorllewin Canada.

Am resymau cyfreithiol, dydy’r llanc ddim wedi cael ei enwi.

Cafodd naw o bobol eu saethu mewn ysgol yn Saskatchewan ddydd Gwener, ac fe fu farw dau ohonyn nhw, a chafodd saith o bobol eu hanafu.

Mae’r saith yn yr ysbyty o hyd.

Cafodd dau frawd 17 a 13 oed eu saethu’n farw yn eu cartref cyn i’r llanc fynd i’r ysgol a chael ei arestio yno gan yr heddlu.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n gwybod pam y digwyddodd yr ymosodiad, a dydyn nhw ddim wedi cadarnhau pa fath o ddryll gafodd ei ddefnyddio.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r ddau fu farw, yn dilyn adroddiadau mai athro a chynorthwy-ydd dysgu oedden nhw.

Dywedodd prif weinidog Canada, Justin Trudeau fod y digwyddiad yn “hunllef waethaf pob rhiant”.