Kim Jong Un yn annerch ei bobol ar deledu
Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, yn dweud ei fod yn barod am ryfel os y bydd cymdogion yn “ymyrryd” ym materion ei wlad.

Ond, eleni, wrth annerch ei bobol, mae wedi osgoi cyfeirio at arfau niwclear ac unrhyw uchelgais ynglyn a datblygu arfau pellgyrhaeddol.

Yn ei anerchiad blwyddyn newydd eleni, roedd yn canolbwyntio’n hytrach ar ei ddyrchafu ei hun fel arweinydd un o wledydd tlota’ a chaeedig y byd.

Dim ond megis dechrau y mae’r gwaith o ddadansoddi pob gair o’i araith, er mwyn ceisio rhagweld ei fwriadau ar gyfer y flwyddyn nesa’.

Ond un peth oedd yn glir – mae “trafod” ar yr agenda gan Kim ar gyfer 2016. Ac er nad aeth mor bell ag enwi gwledydd De Corea a’r Unol Daleithiau, fe fynegodd yn glir ei fod yn “agored” i drafod gydag unrhyw un oedd o ddifri am weld “cymod a heddwch”.

Addawodd hefyd i adfywio economi wan Gogledd Corea.