Bill Cosby - llun fideo o'i wefan
Mae Bill Cosby wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl ymddangos mewn llys yn Philadelphia ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ddynes.

Mae’r cyhuddiad yn dilyn digwyddiad honedig yn 2004 yn ei gartref ger y ddinas.

Fe fydd yn ymddangos yn y llys ar gyfer gwrandawiad arall ar 14 Ionawr.

Mae Cosby wedi ei gyhuddo o roi cyffuriau ac alcohol i’r ddynes cyn ymosod yn rhywiol arni. Dyma’r cyhuddiad ffurfiol cyntaf i’w comedïwr a’r actor 78 oed ei wynebu yn sgil cyfres o honiadau yn ei erbyn.

Nid oedd yn rhaid iddo gyflwyno ple.

Roedd Cosby wedi cyfaddef degawd yn ôl ei fod wedi cael cysylltiad rhywiol gyda’r ddynes, Andrea Constand, ond dywedodd ei bod hi wedi cydsynio.

Fe wrthododd y twrne i gyhuddo Cosby yn 2005 ar ôl i Andrea Constand fynd at yr heddlu ond fe benderfynodd erlynwyr ail-edrych ar yr achos dros yr haf wrth i ddwsinau o ferched eraill wneud cyhuddiadau tebyg yn ei erbyn.

Mae Cosby yn fwyaf adnabyddus am ymddangos yn y Cosby Show yn yr 1980au.