Fe chwyrlïodd corwyntoedd trwy dalaith Texas yn yr Unol Daleithiau ddoe, gan adael difrod sylweddol yn eu sgil a lladd beth bynnag saith o bobol.

Mae tywydd garw yn ne-ddwyrain y wlad wedi lladd cyfanswm o 18 o bobol dros gyfnod y Nadolig hwn.

Fe fu nifer o gorwyntoedd yn ardal Dallas, Texas, lle cafodd toeau tai eu chwythu ymaith, lle cafodd cerbydau eu troi ben i waered, lle cafodd eglwys ei difrodi’n ddifrifol, a lle cwympodd coed dros bellter o 40 o filltiroedd.

Roedd y corwyntoedd yn rhan o system dywydd a allai achosi llifogydd mawr yn Texas, dwyrain Oklahoma, dwyrain Kansas, gorllewin Arkansas a rhannau o Missouri.

Ar yr ochr arall i Texas, fe gafwyd storm eira a orchuddiodd gorllewin y dalaith a New Mexico.