Protest wedi'r ymosodiad yn 2012
Mae protestiadau ar strydoedd Delhi yn dilyn penderfyniad yr awdurdodau i ryddhau treisiwr ifanc o’r ddalfa ym mhrifddinas India.
Roedd y dyn yn 17 oed pan gafodd ei anfon i ddalfa ieuenctid am ei ran yn yr ymosodiad ar ddynes ar fws yn 2012.
Y cam nesaf yw ei anfon i ganolfan adfer, ond mae protestwyr yn galw ar y llywodraeth i beidio gwneud hynny nes bod tystiolaeth ei fod yn edifarhau.
Ymhlith y protestwyr roedd rhieni’r ddynes a gafodd ei threisio.
Ddydd Gwener, gwrthododd Uchel Lys Delhi ddeiseb yn galw am ymestyn cyfnod y dyn dan glo, gan honni ei fod e wedi treulio’r uchafswm posib yn y ddalfa.
Mae disgwyl gwrandawiad pellach ddydd Llun i drafod deiseb arall.
Pan gafodd ei threisio, roedd y ddynes a’i ffrind yn teithio adref wedi iddyn nhw fod mewn canolfan siopa’n gwylio ffilm.
Cawson nhw eu twyllo gan y criw a’u hannog i fynd ar y bws, oedd wedi cael ei ddwyn.
Ymosododd y criw ar y dyn cyn treisio’r ddynes, a bu farw bythefnos yn ddiweddarach.
Cafwyd pedwar yn euog o dreisio ac o lofruddiaeth, a bu farw pumed dyn yn y carchar cyn yr achos.
Roedd y pedwar wedi pledio’n euog cyn honni eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i gyffesu gan yr awdurdodau.
Mae disgwyl i’r Goruchel Lys benderfynu maes o law a fyddan nhw’n gwyrdroi’r ddedfryd o farwolaeth yn eu herbyn.
Yn dilyn yr ymosodiadau, penderfynodd llywodraeth India ddyblu’r ddedfryd am dreisio i 20 mlynedd dan glo.