Angela Merkel
Mae Cabinet Llywodraeth yr Almaen wedi cymeradwyo cynlluniau i anfon hyd at 1,200 o filwyr i helpu gyda’r frwydr ryngwladol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Cafodd y mandad, sydd heb gael ei basio gan y Senedd hyd yn hyn, ei gefnogi gan Weinidogion  Lywodraeth yr Almaen heddiw.

Mae gan glymblaid Canghellor yr Almaen, Angela Merkel fwyafrif clir ac felly, mae’n debygol y bydd y cynnig yn cael ei basio.

Yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis, fe wnaeth Angela Merkel gytuno i barchu cais gan Ffrainc yn gofyn am gefnogaeth i’w hymgyrch yn erbyn IS yn Syria.

Yna i ‘gynnig cymorth’ yn unig

Mae’r Almaen yn bwriadu anfon awyrennau milwrol a llongau rhyfel i gadarnle IS yn Syria, gan roi cymorth i’r milwyr yno.

Ni fydd milwyr yr Almaen  yn ymladd yn uniongyrchol ag IS.

Dywedodd Gweinidog Tramor yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier nad yw’n disgwyl i’r Almaen gael 1,200 o filwyr yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ar yr un pryd chwaith.

Ond mae’r gwrthbleidiau yn y Senedd yn ddrwgdybus o’r cynlluniau, gyda Simone Peter, arweinydd y Blaid Werdd yn cwestiynu  a oes sail gyfreithiol ddigonol ar eu cyfer gan nodi nad oedd gan y wlad fandad clir gan y Cenhedloedd Unedig.