Bydd tua 150 o arweinwyr byd yn addo biliynau o bunnoedd i ddatblygu datrysiad technegol i bryderon hinsawdd mewn trafodaethau ym Mharis dros y dyddiau nesaf.

Yng nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, mae technoleg ynni glân yn cael ei hyrwyddo fel rhan allweddol o’r frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang.

Bydd arweinydd pob gwlad yn rhoi araith yn ystod y gynhadledd gan amlinellu ymdrechion eu gwledydd i leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bydd sylfaenydd Microsoft, Bill Gates, Arlywydd America, Barack Obama ac Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande hefyd yn lansio menter ar y cyd heddiw.

Nod allweddol y fenter yw gwneud ynni glân yn rhatach, ac mae o leiaf 19 o lywodraethau a 28 o bobl fusnes rhyngwladol, gan gynnwys sylfaenydd Facebook, Mark Zuckerberg a’r Tywysog o Saudi Arabia, Alaweed bin Talal eisoes wedi arwyddo.

Fe wnaeth y gynhadledd agor yn ffurfiol prynhawn dydd Sul gyda munud o dawelwch i gofio am ddioddefwyr ymosodiadau diweddar Paris ac addawyd na fyddai brawychiaeth yn atal ymdrechion i arafu na stopio newid hinsawdd.

Anrhefn ar y strydoedd

Ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd, roedd helynt ar y strydoedd, gyda’r heddlu yn chwistrellu nwy dagrau ar oddeutu 300 o brotestwyr a oedd wedi herio gwaharddiad ar brotestiadau. Maen nhw’n ceisio annog yr arweinwyr i ddod i gytundeb cadarn i fynd i’r afael a newid hinsawdd.

Roedd swyddogion diogelwch arfog yn amlwg ym mhob man yng nghanolfan Le Bourget,  lle gwaharddwyd gwrthdystiadau o dan stad o argyfwng Ffrainc ar ôl i frawychwyr ladd 130 o bobol ym Mharis.

Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i tua 100 o wrthrychau amheus gan brotestwyr.

Roedd miloedd o bobol wedi ymuno â phrotestiadau heddychlon mewn prifddinasoedd ar draws Ewrop, gan gynnwys Caerdydd ddydd Sadwrn.