Senedd-dy Brwsel yng Ngwlad Belg
Mae awdurdodau Gwlad Belg wedi cadarnhau eu bod wedi arestio pum person arall yn ystod cyrchoedd gwrth-frawychiaeth yn y brifddinas a dwyrain Liege heddiw.

Ers dydd Sul, mae 21 o bobl wedi’u harestio, ac mae’r ddinas yn parhau i fod o dan y mesurau diogelwch llymaf posib.

Er hyn, mae Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn rhan o ymosodiadau Paris yn parhau i fod ar ffo.

Fe ddywedodd un fyfyrwraig sy’n byw ym Mrwsel, Rhiannon Hincks, wrth golwg360 ei bod hi “fel bod mewn rhyfel.”

“Bob tro chi’n edrych drwy’r ffenest, mae ’na heddlu yn crwydro strydoedd gyda gynnau.”

Mae ysgolion, prifysgolion a rhwydwaith trenau tanddaearol Brwsel yn parhau ynghau heddiw.

“Rydym yn ofni ymosodiad fel un Paris, gyda nifer o unigolion, efallai mewn sawl lle,” meddai Charles Michel, Prif Weinidog Gwlad Belg ar ôl cadeirio cyfarfod gyda Chyngor Diogelwch Gwlad Belg.